Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19
Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(15 munud)
NDM6994 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6995 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6993 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
Effaith diwygiadau lles ar aelwydydd yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
House of Commons Hansard, 19 Tachwedd 2018 (Saesneg yn unig)
House of Commons Hansard, 11 Chwefror 2019 (Saesneg yn unig)
Y Gwir Anrh Amber Rudd AS - Araith - Closing the gap between intention and experience - 5 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
Llywodraeth Cymru - Symud Cymru Ymlaen - Medi 2016
Llywodraeth Cymru - Ffyniant i bawb: cynllun gweithredu ar yr economi - Mai 2018
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - A Yw Cymru'n Decach? - 25 Hydref 2018
Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith.
(120 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 8 Ionawr 2019.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
Grŵp 1: Taliadau gwaharddedig – terfynu contract
3, 4, 6, 7, 8, 10, 23, 24, 1, 2
Grŵp 2: Esboniadau drafftio
5, 28
Grŵp 3: Ad-dalu taliadau gwaharddedig
55, 57
Grŵp 4: Dirymu trwyddedau
56, 58
Grŵp 5: Taliadau a ganiateir
9, 64
Grŵp 6: Blaendaliadau cadw
29, 30, 31, 36, 37, 65, 66, 38, 67, 39, 40, 41, 42
Grŵp 7: Diffygdaliadau
32, 33, 62, 34, 63, 59, 27
Grŵp 8: Pwerau gwneud rheoliadau
35, 48, 49, 52, 51, 50
Grŵp 9: Awdurdodau gorfodi
11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20
Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig
43, 44
Grŵp 11: Awdurdodau gorfodi: rhannu gwybodaeth
45, 17, 21
Grŵp 12: Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol
22
Grŵp 13: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant
46, 54
Grŵp 14: Gwybodaeth a chanllawiau
25, 26, 47, 53
Grŵp 15: Dod i rym
60, 61
Dogfennau Ategol
Bil
Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Grwpio gwelliannau
(15 munud)
NDM6992 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mawrth 2019